Cartref > Digwyddiadau > Digwyddiadau Rhanbarthol > Diwrnod cymdeithasu a ffilmio
Diwrnod cymdeithasu a ffilmio
- 31.01.2026
- 11yb-4yp
- Ty Cwrdd Bangor
Dydd Sadwrn Cymdeithasu a Ffilmio fideo Crynwyr dwyieithog
Pryd: 31 Ionawr 2026, 11yb-4yp
Ble: Tŷ Cwrdd Bangor
Rydym wrth ein bodd i'ch gwahodd i ymuno â ni am ddiwrnod o gymdeithasu, Cyfeillgarwch a ffilmio!
Mae Crynwyr Cymru wrthi'n diweddaru ein cyfres o adnoddau dwyieithog, gyda phwyslais ar sicrhau bod gennym adnoddau print a chyfryngau safonol ar gael i'w defnyddio gan Gyfeillion yng Nghymru cyn etholiadau'r Senedd ar 7 Mai 2026. Fel rhan o hyn rydym wedi trefnu i fideograffydd o Aberystwyth ymuno â ni yn Nhŷ Cwrdd Bangor ar 31 Ionawr i ffilmio rhai cyfweliadau anffurfiol gyda Chyfeillion dwyieithog o Ogledd Cymru. Byddwn yn trafod gwerthoedd Crynwyr a sut mae'r rhain yn rhyngweithio â'n cyfrifoldebau dinesig yn benodol y tro hwn. Rydym felly yn chwilio am Gyfeillion sy'n fodlon ymuno â ni a chael eu ffilmio ar gyfer hyn.
Y cynnyrch cychwynnol o hyn fydd fideo allgymorth byr (hyd at 90 eiliad) a fydd ar gael i gyfarfodydd a Chyfeillion yng Nghymru i'w ddefnyddio cyn, yn ystod, ac ar ôl etholiadau'r Senedd eleni.
Hoffem hefyd ddefnyddio hwn fel cyfle i ddod â Chyfeillion sy'n siarad ac yn dysgu'r Gymraeg yng Ngogledd Cymru at ei gilydd i gymdeithasu. Mae hyn yn golygu bod croeso i chi fynychu hyd yn oed os nad ydych chi eisiau cael eich cyfweld! Bydd y diwrnod yn cynnwys cinio a rennir (dewch â chyfraniad os gwelwch yn dda!) a bydd Carina yn sicrhau cyflenwad cyson o de a chacen.
Rydym yn deall bod y diwrnod yn eithaf hir, felly os ydych chi'n fodlon cael eich cyfweld ond dim ond yn gallu mynychu am ran gyfyngedig o'r diwrnod, rhowch wybod i Carina drwy e-bost (crynwyrcymru@gmail.com) fel y gallwn addasu'r amserlen ffilmio o amgylch hyn.
Hefyd, os mai hwn yw’r tro cyntaf i chi cael eich ffilmio neu’ch cyfweld, peidiwch â phoeni! Bydd digon o amser i chi meddwl am yr hyn hoffech chi ei ddweud (a chyfle i ailddechrau os nad oedd y geiriau’n iawn y tro cyntaf!) ac mi wnawn ni cadw’r sgyrsiau’n fyr!
Edrychwn ymlaen at weld nifer ohonoch chi yno a chroeso i chi cysylltu â Carina efo unrhyw gwestiynau yn y cyfamser - neu os hoffech chi ofyn am gacen benodol!
Syml. Radical. Ysbrydol.