Cartref > Cyfarfodydd

Cyfarfodydd

Strwythur y Crynwyr yng Nghymru

Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn mynychu cyfarfod Crynwyr, byddem yn argymell i chi gysylltu â’r cyfarfod sydd yn fwyaf lleol i chi yn gyntaf. Er mwyn darganfod ble mae eich cyfarfod agosaf, cliciwch ar y rhanbarth berthnasol isod.

Mae pob Cyfarfod Crynwyr Lleol yn aelod o Gyfarfod Crynwyr Rhanbarthol. Yng Nghymru, mae’r rhain wedi eu trefnu mewn 4 rhanbarth – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Cymru, a’r Gororau Deheuol. Cliciwch ar y botymau isod i ddarganfod mwy am bob rhanbarth ac i ymweld â’u gwefannau.

Crynwyr Cymru, yw’r sefydliad sydd yn tynnu Crynwyr sy’n byw yng Nghymru at ei gilydd. Mae’n gweithio gyda’r 4 cyfarfod rhanbarthol yng Nghymru a’r Gororau Deheuol. Mae fel rheol yn ymgynnull dair gwaith y flwyddyn i addoli ac i gynllunio’r gwaith.

Syml. Radical. Ysbrydol.