Amdanom Ni
Crynwyr Cymru yw’r sefydliad sydd yn tynnu Crynwyr sy’n byw yng Nghymru at ei gilydd. Mae’n gweithio gyda’r 4 cyfarfod rhanbarthol yng Nghymru a’r Gororau Deheuol. Mae fel rheol yn ymgynnull tair gwaith y flwyddyn i gyd addoli ac i gynllunio’r gwaith.
Mae gan Grynwyr Cymru gyfrifoldebau ar ran ‘Britain Yearly Meeting’, i gynrychioli a hyrwyddo bywyd a thystiolaeth y Crynwyr yng Nghymru. Mae’r cyfrifoldebau yma’n cynnwys penodi cyfeillion i wasanaethu ar Bwyllgorau a Grwpiau megis Cytûn; cyfathrebu gyda’r Llywodraeth Cymru a'r Senedd, yn ogystal â chynnal perthnasau gyda chyrff cyhoeddus ac elusennau eraill yng Nghymru, yn enwedig cyrff sydd â diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol, heddwch a gwaith rhyng-ffydd. Mae hefyd yn cynrychioli’r Crynwyr yng Nghymru yn ‘Britain Yearly Meeting’ pan fo angen.
Mae Crynwyr Cymru yn gweithredu’n ddwyieithog, ac yn darparu dogfennau’n ddwyieithog fel rheol, yn ogystal â threfnu cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfodydd. Gallwch gysylltu â ni drwy’r cyfeiriad e-bost hwn: crynwyrcymru@gmail.com
Adnabyddir Crynwriaeth yn aml fel ‘y ffordd dawel’. Mae hyn am ein bod yn eistedd mewn tawelwch yn ein cyfarfodydd addoli. Does neb yn pregethu nac yn arwain ein cyfarfodydd, a chyfeiriwn at ein gilydd fel Cyfeillion er mwyn creu naws llai ffurfiol, a dangos ein bod i gyd yn gydradd â’n gilydd. Drwy ymgynnull mewn tawelwch, rydym yn helpu ein gilydd i fod yn agored i’r ysbryd, neu’r goleuni, sydd y tu mewn i bob un ohonom. Er nad oes neb yn pregethu, bydd unigolyn weithiau yn siarad, os bydd ysbryd y cyfarfod yn eu tywys i wneud hynny.
Yn wahanol i nifer o grefyddau, does gan y Crynwyr ddim set o gredoau penodol. Yn hytrach cyfeiriwn at ein tystiolaethau, sef ein canllaw ar sut i fyw ein bywydau sy’n deillio o’n cysylltiad dwfn gyda’r ysbryd neu’r goleuni mewnol. Mae plethu’n crefydd yn rhan o wead dyddiol ein bywydau wedi golygu fod Crynwyr dros y canrifoedd wedi ymgyrchu’n ddi-dor dros hawliau eraill a thros ddyfodol ein planed.
Dyma ein canllawiau:
- mae rhywbeth sanctaidd ynom ni i gyd,
- mae pawb yn gyfartal yng ngolwg Duw,
- mae crefydd yn ymwneud â bywyd yn ei gyfanrwydd,
- mai mewn tawelwch down o hyd i ymdeimlad dyfnach o bresenoldeb Duw,
- mae gwir grefydd yn arwain at barchu’r ddaear a’r holl fywyd sydd arni,
- mae pob unigolyn yn unigryw, yn werthfawr ac yn blentyn i Dduw.
Mae gennym ni safiadau neu dystiolaethau arbennig ar:
- Heddwch
- Gwirionedd a Didwylledd,
- Cydraddoldeb
- Cyfiawnder
- Symlrwydd
- Cynaliadwyedd
Mae’r Crynwyr ar y cyfan yn heddychwyr. Mae nifer ohonom wedi gwrthod ymladd mewn rhyfeloedd - ac rydym hefyd yn gweithio i geisio datrys pob math o wrthdaro, yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae Crynwyr yn credu mewn dilyn llwybrau di-drais, gan weithio’n ddiwyd i ddatblygu a gweithredu dulliau amgen o greu cytgord yn lleol ac yn rhyngwladol.
Mae Crynwyr Cymru yn cydweithio gyda chynllun Heddwch ar Waith sydd, gyda nawdd Sefydliad Joseph Rowntree, yn creu rhwydweithiau yng Nghymru. Cysylltir nifer o sefydliadau, cynghorau a chymdeithasau sy’n gweithio dros heddwch a chymod. Aiff y gwaith ymlaen o nerth i nerth. Mae rhai Crynwyr yn aelodau gweithgar o Gymdeithas y Cymod, a’r Academi Heddwch Cymru. Os hoffech chi ddysgu mwy am sut mae Crynwyr yn byw eu ffydd, mae’r podlediad Quaker Talks ar gael i glywed mwy am y ffordd mae Crynwyr yn meddwl am, ac yn gweithredu dros, amryw o faterion o bwys - e.e. Militariaeth, mewnfudo, Israel a Phalestina, Duw, rhiantu a llawer mwy.
Gwefannau defnyddiol
Ceisiwn fynegi y gwirionedd bob amser, a chyda phawb y down ar eu traws, gan gynnwys gyda phobl sydd mewn safleoedd pwerus yn ein cymunedau a’n byd. Wrth i ni ein hunain geisio byw ein bywydau gyda gwirionedd a didwylledd, disgwyliwn i’r un gwerthoedd fod yn amlwg ymysg arweinwyr ein cymdeithas.
Wrth ymgyrchu dros hawliau lleiafrifoedd, y Crynwyr oedd y grŵp ffydd cyntaf ym Mhrydain i ’gydnabod priodas o’r un rhyw, ac yma yn ein cymdeithas ddwyieithog yng Nghymru, mae cydraddoldeb ieithyddol hefyd yn bwysig iawn i ni. Mae Cyfarfodydd y Cyfeillion yng Nghymru yn ceisio creu awyrgylch sydd yn barchus ac yn groesawgar tuag at siaradwyr pob iaith, yn ogystal â thuag at bobl o amrywiol gefndiroedd, crefydd, hil a rhyw.
Rhwng y 17eg ganrif a’r 19eg ganrif, roedd Crynwyr yn flaenllaw iawn yn yr ymgyrch dros ddiddymu caethwasiaeth. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod hefyd y ffaith bod yna Grynwyr a oedd yn ymwneud â’r fasnach gaethweision a elwodd o lafur pobl. Mae Crynwyr heddiw yn cydnabod bod llawer ohonom yn dal i elwa o’n hetifeddiaeth o gyfoeth a braint. Rydym yn chwilio am, ac yn trafod, ffyrdd o unioni niwed y gorffennol a gweithio dros gyfiawnder hiliol a hinsawdd yn y presennol.
Mae Crynwyr yn bryderus am ormodedd a gwastraff yn ein cymdeithas. Rydym am sicrhau bod ein defnydd o adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydyn ni’n ceisio byw yn syml a dod o hyd i le ar gyfer y pethau sy’n wirioneddol bwysig: y bobl o’n cwmpas, y byd naturiol, a’n profiad o lonyddwch. Mae nifer o Grynwyr yn weithgar iawn ym maes newid hinsawdd a chynhesu byd-eang. Yma, yng Nghymru, rydym yn aelodau o ymgyrch Climate.cymru.
Crefydd a ddatblygodd ym Mhrydain yn ystod yr 17eg ganrif yw Crynwriaeth. Yn sgil diwedd y Rhyfel Cartref, roedd nifer fawr o bobl yn deisyfu/yn chwilio am newid radical mewn crefydd, gwleidyddiaeth a chymdeithas, a ganwyd ein ffydd Grynwrol yn y cyd-destun radical yma.
Roedd y Crynwr cyntaf, George Fox, yn grediniol y gallai pob unigolyn ffurfio perthynas uniongyrchol gyda Duw, heb fod angen pregethwr na Beibl i’n harwain, a bod elfen o Dduw yn bodoli ym mhob un ohonom. Adnabyddir yr elfen ddwyfol hon sydd ym mhob unigolyn fel ‘y goleuni mewnol’ (er bod nifer o dermau eraill hefyd). Mae pob Crynwr yn ceisio dyfnhau eu cysylltiad gyda’r goleuni hwn, er mwyn canfod arweiniad ysbrydol wrth i ni droedio llwybrau bywyd.
Mae gwreiddiau Crynwriaeth mewn Cristnogaeth, ond doedd y Crynwyr cynnar ddim yn gweld yr angen am adeiladau, defodau, na dyddiau sanctaidd penodol i ymarfer eu Crefydd. Yn hytrach, credont y dylai crefydd fod yn rhywbeth y mae pobl yn ei fyw a’i weithredu drwy’r amser yn eu bywydau bob dydd.
Roedd rhyddid cydwybod, a’r hawl i addoli, yn bwysig i bobl a geisiai wirionedd crefyddol drostynt eu hunain, ac a ddymunai weld newid cadarnhaol yn y byd. Roedd Crynwyr yn eu mysg. O dan arweinyddiaeth George Fox, y Crynwyr oedd y grŵp crefyddol anghydffurfiol mwyaf radical yn ystod ail hanner yr 17ganrif, ac fe’u herlidiwyd yn ffyrnig oherwydd eu ffydd.
Mae Cyfeillion / Crynwyr yng Nghymru er 1653. Daeth rhai o’r Cymry cyntaf at y Crynwyr o enwadau eraill oedd eisoes yn gobeithio am ddeffroad ysbrydol a diwygiadau crefyddol a chymdeithasol. I raddau, yr oedd anghydffurfwyr crefyddol Cymru, megis Walter Cradoc o Lanfaches, Morgan Llwyd o Wrecsam a William Erbury o Gaerdydd, wedi braenaru’r tir ar gyfer dysgeidiaeth y Crynwyr.
Yn 1652, anfonwyd Sion ap Sion, un o gylch y pregethwr ac awdur dylanwadol, Morgan Llwyd, i’r Hen Ogledd, i ymchwilio i’r cyffro ynghylch Crynwriaeth oedd, erbyn hynny, wedi dod i’r amlwg. Gwelir y Bywgraffiadur Cymreig. Gwelir hefyd yma, hanes Ellis Pugh, Dolgellau, Thomas Wynne, Caerwys, Richard Davies, Cloddiau Cochion, Y Trallwng, a theulu Lloyd, Dolobran.
Oherwydd eu gormesu gan y llywodraeth a’r eglwys, ymfudodd llawer o deuluoedd Cymry Cymraeg i Pensylvannia yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ceir darlun byw o hyn yn nofelau Marion Eames a hanes Crynwyr Cymru yn llyfr Gethin Evans, Benign Neglect.
Syml. Radical. Ysbrydol.