Cartref > Cyfarfodydd > Cyfarfodydd Ar-lein
Cyfarfodydd Ar-lein
Cyfarfod Ar-lein Gogledd Cymru
Mae Cyfarfod Ar-lein Gogledd Cymru yn cyfarfod dros Zoom bob dydd Sul am 10.15 am awr o addoliad sy'n dechrau am 10.30. Mae myfyrdodau ar yr addoliad hwnnw, hysbysiadau ac yna sgwrs gyfeillgar. Croeso i bawb.
Er mai Saesneg yw'r iaith a ddefnyddir amlaf, mae rhai Cyfeillion hefyd yn siarad Cymraeg, gan gyfieithu i'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Mae hefyd addoliad byrrach, 30 munud, bob dydd Mercher yn dechrau am 17.30. Achlysur addoliad yn unig yw hwn heb unrhyw fyfyrdodau na hysbysiadau. Unwaith eto, mae croeso i bawb.
Os hoffech chi gael y ddolen Zoom ar gyfer ein haddoliad, anfonwch e-bost at glerc y Cyfarfod Ar-lein, Ruth. Ei chyfeiriad e-bost yw ruth5vr@gmail.com
Rydym yn gyfarfod croesawgar a llawen iawn gydag ysbrydolrwydd cryf, cyfunol sy'n ein clymu ni at ein gilydd fel cymuned ar-lein. Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn ymuno â ni.
Crynwyr Cymraeg
Ar gyfer siaradwyr a siaradwyr newydd y Gymraeg, mae cyfarfod ar-lein y Crynwyr Cymraeg.
Mae ‘Crynwyr Cymraeg’ yn gyfle i gysywlltu siaradwyr a dysgwyr Cymraeg gyda’i gilydd, o bedwar ban byd. Mae’r grŵp yn cwrdd dros Zoom, gan rannu distawrwydd, ac yn aml ymateb i gerdd, ddelwedd neu hanes sydd wedi ei rannu ar y sgrin. Mae croeso cynnes i bawb, boed nhw’n gyfeillion eisoes neu’n ystyried mynychu am y tro cyntaf.
Mae Crynwyr Cymraeg yn cyfarfod ar y dydd Iau cyntaf a'r trydydd dydd Iau o bob mis o 7:25pm tan 8:15pm.
Ebost cyswllt y cyfarfod yma yw crynwyrcymraeg@gmail.com
Plant a Phobl Ifanc
Mae gan sawl cyfarfod ddarpariaeth a gweithgareddau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Mae croeso i deuluoedd a phlant yn ein cyfarfodydd, ac mae rhai o’n cyfarfodydd mwyaf yn cynnig cyfarfod a gweithgareddau amrywiol i blant a phobl ifanc (holwch yn eich cyfarfod lleol am fanylion). Yn ogystal â mynychu eu cyfarfod lleol, mae cyfleoedd lu ar gael i fynychwyr a Chrynwyr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i’r Ty Cwrdd, ac hefyd i ddysgu mwy am grynwriaeth, a datblygu eu sgiliau, drwy wirfoddoli’n lleol ac yn rhyngwladol.
Syml. Radical. Ysbrydol.