Cartref > Digwyddiadau > Digwyddiadau Cenedlaethol > CCB Cymar
CCB Cymar
- 20.09.2025
- 11yb - 4yp
- Tŷ Cwrdd Crynwyr Wrecsam

CYNHELIR CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL CYMAR ar Ddydd Sadwrn Medi 20fed 2025 11.00 - 4.00.
Bydd hwn yn cyfarfod ar-lein ac wyneb yn wyneb yn Wrexham Quaker Meeting House / Ty Cwrdd Crynwyr Wrecsam, Holt Road, Wrecsam LL13 8HN
Bydd lluniaeth ar gael o 10.00. Dewch a phecyn bwyd i’ch cinio.
Mae croeso cynnes i bob Cyfaill, neu Fynychwr ymuno trwy drefniant gyda'u Clerc(iaid) Rhanbarthol, ar gyfer Cyfarfod Rhanbarth Canolbarth, Gogledd neu Dde Cymru neu'r Gororau Deheuol.
Bydd y papurau a’r ddolen Zoom ar gael ar wefan Cymar o’r 1af Mis Medi.
Bydd cyfieithu ar y pryd yn cael ei darparu ar gyfer y cyfarfod.
Bydd Sarah Donaldson, sy'n aelod o dîm staff uwch BYM, yn annerch y cyfarfod ar y pwnc:
“Yr ymddiriedolwr hanfodol: gwasanaeth fel ymarfer ysbrydol”
Mae Sarah wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr Cyfarfod Blynyddol Prydain a Woodbrooke ac mae'n Diwtor Cyswllt i Woodbrooke. Mae elfennau allweddol ei gwaith yn ymwneud â chefnogi'r newid i sesiynau'r Cyfarfod Blynyddol Parhaol a chefnogi Cyfarfodydd Rhanbarthol a chymunedau Crynwyr eraill sydd eisiau newid eu strwythurau llywodraethu.
Cyrraedd y cyfarfod mewn car:
Mae yna le i 16 o geir ym Maes Parcio'r Tŷ Cwrdd. Mae mwy o lefydd parcio ar gael ar ddydd Sadwrn yn y Feddygfa gyferbyn â'r Tŷ Cwrdd.
Cyrraedd y Cyfarfod gyda thrafnidiaeth gyhoeddus:
Mae'r Tŷ Cwrdd yn daith gerdded ysgafn o tua 25 munud i ffwrdd o'r Orsaf Reilffordd. neu’n daith bws o 15 munud
Syml. Radical. Ysbrydol.