Cartref > Newyddion > Ymgyrchoedd > Etholiadau'r Senedd: Golwg ar bolisi
Etholiadau'r Senedd: Golwg ar bolisi
Bydd Etholiadau Senedd 2026 yn cael effaith sylweddol ar gyfeiriad y polisi a ddilynir yng Nghymru am weddill y degawd. Er nad yw'r pleidiau gwleidyddol eu hunain wedi cyhoeddi maniffestos eto, mae llawer o sefydliadau yn y sector elusennol wedi llunio eu maniffestos polisi eu hunain sy'n ymwneud â'u maes gwaith. Gall y rhain roi syniadau defnyddiol i Gyfeillion yng Nghymru ar gyfer llunio cwestiynau hustyngau, neu ysgrifennu at ymgeiswyr ar feysydd polisi penodol ac mae rhai sy'n cyfateb i werthoedd a phryderon Crynwyr Cymru wedi'u cysylltu isod:
Climate Cymru yw'r rhwydwaith sy'n dod â sefydliadau Cymru sy'n gweithio yn y sectorau hinsawdd, amgylchedd a chynaliadwyedd ynghyd. Mae eu papur briffio Senedd 2026 yma. (Noder: mae'r ddogfen gryno yn cynnwys mwy o wybodaeth na'r brif ddogfen.)
Mae Oxfam Cymru yn sefydliad sy'n gweithio i fynd i'r afael ag anghyfiawnder tlodi gartref a thramor. Mae eu papur briffio polisi Senedd 2026 yma.
Mae Cwmpas yn sefydliad sy'n gweithio i adeiladu economi gymdeithasol decach a gwyrddach yng Nghymru. Mae eu Maniffesto Senedd 2026 yma.
Syml. Radical. Ysbrydol.