Cartref > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Mae Crynwyr Cymru yn croesawu Cherry Vann, Archesgob Cymru

Mae Crynwyr Cymru yn croesawu Cherry Vann, Archesgob Cymru

Ar ddydd Sul 14 Mehefin, roedd Cyfeillion o Gyfarfodydd Lleol Casnewydd, Caerdydd a Phenarth yn falch o groesawu Archesgob Cymru, Cherry Vann, i ymuno â nhw ar gyfer Cyfarfod Addoli. Cynhaliodd Cyfeillion Casnewydd y Cyfarfod Addoli yn Llyfrgell Maindee, sef eu man cyfarfod arferol.

Yn dilyn y Cyfarfod Addoli, cyflwynodd Carolyn Sansom – un o gyd-glercod Crynwyr Cymru – gopi o’r fersiwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar o lyfr Margaret Fell, ‘Women’s Speaking Justified’, i Cherry; gobeithiwn fod hyn wedi cynnig cadarnhad o safbwynt y Crynwyr i’w phenodiad. Yn y llyfr, mae Fell yn rhoi enghreifftiau o’r Beibl sy’n cefnogi gweinidogaeth a thystiolaeth menywod. Ar ôl y cyflwyniad, sgwrsiodd Cherry â’r Cyfeillion dros baned o de neu goffi – a bisgedi, wrth gwrs!

Cherry yw’r fenyw gyntaf i fod yn Archesgob Cymru, a hithau hefyd yw’r Archesgob cyntaf i fod mewn perthynas o’r un rhyw yn agored; felly, mae ei phenodiad yn rhywbeth i’w ddathlu’n wirioneddol!

Roedd Cyfeillion Casnewydd wedi anfon eu dymuniadau gorau ati ym mis Tachwedd 2025 pan gafodd ei phenodi, ac maent eisoes wedi bod mewn cysylltiad â hi trwy amrywiol gysylltiadau ecwmenaidd.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle hefyd i Gyfeillion o’r Cyfarfodydd Lleol mwyaf dwyreiniol yng Nghyfarfod Ardal De Cymru ddod at ei gilydd; teimlai’r rhai a fynychodd ei fod yn cadarnhau gwerth ymweld â’n gilydd rhwng ein Cyfarfodydd.

Pob newyddion

Syml. Radical. Ysbrydol.