Cartref > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Jani Evans yn myfyrio ar gyfarfod Mehefin CCQW
Jani Evans yn myfyrio ar gyfarfod Mehefin CCQW
Myfyrdodau ar gyfarfod CCQW a gynhaliwyd ar 27ain o Fehefin 2026 yn Nhŷ Cwrdd Bangor ac ar Zoom.
Cyfarfu tri ar ddeg o Gyfeillion yn y Tŷ Cwrdd ac 14 arall o bob rhan o Gymru ar ddydd Sadwrn poeth ym mis Mehefin. Er gwaethaf y gwres, roedd y Tŷ Cwrdd yn gysgodol ac fe wnaethon fwynhau cinio gyda'n gilydd y tu allan yn ein gardd fechan.
Fel arfer, treuliwyd y bore yn trafod busnes, trafodwyd ystod eang o faterion sy'n peri pryder i'r Gymdeithas yng Nghymru. Fe gawsom ein hatgoffa, y rhai ohonom sydd yn bennaf yn ymwneud ag ymdrechion cyfarfodydd lleol a rhanbarthol, o'r ystod o waith pwysig sy'n cael ei gynnal ar ein rhan gan CCQW ac i weld ein gwaith o fewn y cyd-destun cenedlaethol ehangach.
Buom yn trafod ystod o bynciau: y Llyfr Disgyblaeth newydd a fydd yn cael ei lansio ar 21ain o Dachwedd 2026 yn y Cyfarfod Blynyddol, gydag anogaeth i Gyfarfodydd Ardal a Lleol ddarllen, myfyrio ac ymateb erbyn Mai 2027 cyn i'r drafft gael ei ystyried yng Nghyfarfod Blynyddol mis Gorffennaf; gweithgareddau Clwstwr Amgylcheddol Cyfarfod Rhanbarth de Cymru a gwahoddiad iddo ymestyn yn rhan o Glwstwr Amgylcheddol CCQW; cymryd rhan wleidyddol yng Nghymru gyda’r Senedd; i gynllunio at y penwythnos preswyl yn 2027 ac adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngregynog ym mis Ebrill 2025.
Roedd diddordeb arbennig gen i i glywed a dysgu bod cynrychiolwyr o CCQW wedi cwrdd â Cherry Vann, y ferch gyntaf i ddod yn Archesgob Cymru, ac ei bod wedi mynychu Cyfarfodi Addoli gyda'r Cyfeillion ac wedi cael copi o lyfr Margaret Fell (1667) “Women’s Speaking Justified”. Roedd y cyfarfod yma yn dystiolaeth bellach bod y Gymdeithas yn agored i eglwysi Cristnogol yng Nghymru ac yn dangos awydd i barhau i gydweithio. Mae gwaith Margaret Fell, a ysgrifennwyd dros 360 mlynedd yn ôl tra oedd hi yn y carchar am drefnu gwasanaethau ffydd yn ei theulu, yn hynod addas. Mae'n herio'r distawrwydd a osodwyd ar fenywod ac yn cadarnhau eu cyfartaledd ysbrydol ac yn cyflwyno dadl manwl am hawliau menywod i bregethu a dysgu yn yr eglwys. Mae’r cyfieithiad diweddar o’i gwaith i Saesneg modern wedi’i ddiweddaru ar adeg briodol gan ein bod yn llawenhau nid yn unig yn achos sefydlu’r fenyw gyntaf i fod yn Archesgob Caergaint ond hefyd ein menyw gyntaf ni i fod yn Archesgob Cymru.
Croesawyd manylion am gyfraniad y Crynwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol sydd i ddod a hefyd cyfranogaeth ehangach CCQW ar y Maes gyda gweithgareddau diddorol ac amrywiol. Eleni, yn ychwanegol at bresenoldeb cyffredinol y Crynwyr, mae CCQW wedi noddi Medal y Cyfansoddwr, cystadleuaeth gwerth £500 a gyflwynir o gymunrodd Lynn Moseley. Mae’r gystadleuaeth yn gofyn am ddau ddarn o gerddoriaeth i’w gosod i ddwy gerdd gan Waldo Williams, y bardd y Crynwr a’r heddychwr , Plentyn y Ddaear a’r Ci Coch. Mae Plentyn y Ddaear yn gerdd enwog yng Nghymru yn erbyn rhyfel a gyhoeddwyd yn 1939 ac mae’n archwilio themâu heddwch, dynoliaeth a’n perthynas gyda’r ddaear. Mae’n ymddangos yn arbennig o berthnasol i’n sefyllfa yn y byd heddiw. Mae’r Ci Coch yn gerdd arbennig i blant. Bydd y gwaith hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd diwylliannol Cymru ac yn gyfle i wneud gwaith Waldo Williams yn fwy eang a hysbys.
Ar ôl cinio cawsom ddarlith gan y siaradwr gwadd Andrew Hind, Darlith ar “How can Quaker testimonies illuminate our response to Artificial Intelligence.” Daethom yn ymwybodol o’r anwireddau sydd o gwmpas AI, er enghraifft y defnydd a wneir o ynni a dŵr i sefydlu a rhedeg y canolfannau prosesu data. Tynnwyd ein sylw at risgiau AI nad ydynt yn hysbys yn eang, gan gadarnhau ein pryderon a’n gofidiau am yr amgylchedd, cydraddoldeb a heddwch. Roedd yn ddarlith gwerth chweil gyda’r angen i’w gwneud ar gael yn eang.
Jani Evans, Cyfarfod Bangor, Gorffennaf 2026
Syml. Radical. Ysbrydol.