Cartref > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Etholiadau'r Senedd: Y System Newydd
Etholiadau'r Senedd: Y System Newydd
Ar gyfer Etholiadau'r Senedd ar 7 Mai 2026, mae'r ffordd rydym yn ethol aelodau i'r Senedd yn newid. Ar y dudalen hon fe welwch grynodeb o'r newidiadau yn ogystal â rhai dolenni defnyddiol i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.
Sut mae'r Senedd yn newid?
Mae nifer Aelodau'r Senedd yn cynyddu. Yn lle 60 aelod, bydd 96 bellach. Mae tymhorau'r Senedd hefyd yn newid. O 2026 ymlaen, cynhelir etholiadau bob 4 blynedd yn lle bob 5 mlynedd.
Sut mae fy etholaeth yn newid?
Yn lle 40 etholaeth, dim ond 16 etholaeth fydd ledled Cymru bellach. Bydd pob etholaeth yn ethol 6 aelod i'w cynrychioli yn y Senedd. Gallwch wirio'ch etholaeth newydd gan ddefnyddio'ch cod post ar wefan y Senedd yma.
Sut mae'r system etholiadol yn newid?
Gelwir y system bleidleisio newydd yn 'system rhestr gyfrannol gaeedig'. Mae hyn yn golygu eich bod yn pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol, yn hytrach na phobl unigol. Bydd y papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, felly gallwch weld pwy sy'n sefyll dros bob plaid o hyd. Os yw plaid yn ennill digon o bleidleisiau, byddant yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os yw ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, byddant yn ennill sedd yn y Senedd. Bydd seddi'n adlewyrchu canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael.
Pwy all bleidleisio ar 7 Mai 2026?
Gallwch bleidleisio yn etholiadau'r Senedd os ydych chi
- wedi'ch cofrestru i bleidleisio
- 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad
- yn byw yng Nghymru
- heb eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio
Gallwch bleidleisio os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig neu'n ddinesydd o wlad yn yr UE. Gallwch hefyd bleidleisio os ydych chi'n ddinesydd o wlad arall a bod gennych ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu os nad oes angen caniatâd arnoch.
Dal wedi'ch drysu? Ewch i wefan y Senedd yma neu e-bostiwch crynwyrcymru@gmail.com am gymorth.
Syml. Radical. Ysbrydol.