Cartref > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Cyfarfod Crynwyr Cymru - Hydref 2026
Cyfarfod Crynwyr Cymru - Hydref 2026
Dyma myfyrdodau Rhian Parry ar ein cyfarfod ym mis Hydref..
Dyma gyfarfod byddaf yn edrych ymlaen ati. Chefais mo’m siomi.
O’r cychwyn cyntaf, mae croeso cynnes y clercod yn ein gwahodd i mewn a’r wynebau cyfarwydd o bob rhan o Gymru yn ail gydio ein cysylltiadau. Tair gwaith y flwyddyn byddwn yn cyfarfod un ai ar y we neu wyneb yn wyneb. Yn anorfod, mae’n rhaid trafod materion busnes a threfnu digwyddiadau ac mae hyn i gyd yng nghyd-destun Cymru. Cawn gadw i fyny â’r adroddiadau difyr o’r mân bwyllgorau sy’n trefnu gweithgareddau, ac yn mynychu cyfarfodydd cenedlaethol y Crynwyr a thu hwnt. Y tro hwn, cawsom adroddiad o’n gweithgareddau blaengar yn eisteddfod y Garreg Las, cyfarfodydd Cytûn, deallusrwydd artiffisial (AI) a’i ddylanwadau ymysg eraill. Mae’n dangos mor eang yw diddordebau a gweithgareddau’r Crynwyr. Rhywbeth i bawb!
Manteisiwn ers blynyddoedd ar wasanaeth cyfieithu ar y pryd ardderchog drwy’r dydd fel bo pawb yn defnyddio’r iaith o’u dewis. Mae’n hanfodol i’r rhai sydd â Chymraeg yn iaith ysbrydol. Trafodwyd ein tasgau yn y chwe mis nesaf yn darllen, dirnad ac adrodd ar ein drafft o’r Llyfr Disgyblaeth Newydd, Our Quaker Way. Gwerthfawrogir llafur cariad ac arweiniad Catherine James a Stevie Krayer ar ran Crynwyr Cymru, dros flynyddoedd lawer. Anfonir dau gopi papur ac un digidol i bob Cyfarfod Lleol gan ofyn i Gyfeillion drafod y cyfan fel gallwn gyfrannu at y drafodaeth genedlaethol.
Yn y prynhawn, bu gweithdy arbennig iawn, ac yn arwain, Heather Bolton (Hinsawdd Gogledd Cymru) a Lisa Mundle, o Gyfarfod Bangor. Crëwyd awyrgylch hyfryd i’n paratoi at y sesiwn. Cawsom gyfle i wrando a dysgu sut i ddefnyddio ffordd Gobaith Byw / Active Hope, Joanna Macy i’n cynorthwyo i ymdopi â’r byd dyrys sydd ohoni. Drwy gyflwyniad a gwaith mewn parau, ystyriwyd rhai o effeithiau ein gweithredoedd a’r canlyniadau byd-eang, o’r pentyrrau gwastraff enfawr, y ddaear sych a’r tanau gwyllt. O weld lluniau yng ngwledydd y Trydydd Byd fe’n hysgwyd. Gwelwn yr un peth yng Nghymru. Drwy’r dulliau awgrymwyd uchod, hwyluswyd ein trafodaeth a’n ymateb. Sylweddolwyd sut mae ein ffordd o fyw yn achosi’r difrod. Un dasg effeithiol iawn oedd dychmygu bod yn unigolyn can mlynedd o heddiw i’r dyfodol yn ein holi pam wnaethom fyw mewn ffordd oedd yn dinistrio eu byd a sut wnaethom ymateb a chadw ffydd. Does dim rhaid mynd i bendraw byd i weld effeithiau ein diofalwch ar yr amgylchedd.
Syml. Radical. Ysbrydol.