Cartref > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Crynwyr Cymru yn condemnio cyrch yr heddlu

Crynwyr Cymru yn condemnio cyrch yr heddlu

Mae Crynwyr Cymru yn condemnio cyrch yr heddlu ar Dŷ Cwrdd San Steffan

Condemniodd Crynwyr Prydain yn daer yr ymosodiad ar addoldy Tŷ Cwrdd San Steffan gan Swyddogion yr Heddlu metropolitan ar y 27ain o Fawrth. Mae Crynwyr Cymru yn cefnogi’r safbwynt hwn ac yn honni ei fod yn ganlyniad uniongyrchol i ddeddfau protest llymach sy’n dileu bron pob llwybr i herio’r statws quo.

Mae’r Ddeddf ‘Police, Crime, Sentencing and Courts Act 2022’ a’r Ddeddf ‘Public Order Act 2023’ wedi troseddoli sawl math o brotest ac yn caniatáu i’r heddlu atal gweithredoedd y bernir eu bod yn rhy aflonyddgar.

Yn y cyfamser, mae newidiadau mewn gweithdrefnau barnwrol yn cyfyngu ar allu protestwyr i amddiffyn eu gweithredoedd yn y llys. Mae hyn i gyd yn golygu bod llai a llai o ffyrdd i siarad gwirionedd wrth rym.

Mae Crynwyr yn cefnogi’r hawl i brotest gyhoeddus ddi-drais, gan weithredu eu hunain o reidrwydd moesol dwfn i sefyll yn erbyn anghyfiawnder a thros ein planed.

Mae llawer wedi cymryd camau uniongyrchol di-drais dros y canrifoedd o ddileu caethwasiaeth i bleidlais i fenywod a diwygio carchardai.

Dywedodd Paul Parker, clerc recordio Crynwyr Prydain:

“No-one has been arrested in a Quaker meeting house in living memory.

“This aggressive violation of our place of worship and the forceful removal of young people holding a protest group meeting clearly shows what happens when a society criminalises protest.

“Freedom of speech, assembly, and fair trials are an essential part of free public debate which underpins democracy.”

Pob newyddion

Syml. Radical. Ysbrydol.