Cartref > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Barn: Medi James ar y Senedd newydd

Barn: Medi James ar y Senedd newydd

Alla i ddim celu’r ffaith mod i wrth fy modd gyda chanlyniad yr etholiad diweddar i Senedd Cymru. Dwi’n teimlo bod pobl wedi dechrau deall cenedlaetholdeb Cymru heddiw, neu o leia yn deall y neges dros gydraddoldeb, gwirionedd, cynaliadwyedd a heddwch.

Mewn cyfarfod diweddar dan y pennawd ‘Trawsnewid y sgwrs gyhoeddus ar ffoaduriaid a mudwyr neges y panelwyr oedd, os oeddem am wir groesawu ffoaduriaid a mudwyr i’n plith, roedd rhaid ‘ymgysylltu’. Y geiriau a ddefnyddiwyd oedd ‘get connected’. Mae’r blaid a ddaeth i’r brig wythnos diwetha wedi bod yn ceisio ymgysylltu ers can mlynedd. Yr un yw’r neges heddiw, craidd ein Cristnogaeth ni yn ogystal a chrefyddau mawr eraill y byd. Dim damcaniaeth ydy Cristnogaeth ond ffordd. Mae ymgysylltu a throsglwyddo neges wedi digwydd mewn amryfal ffyrdd yng Nghymru dros yr wythnosau diwetha a bydd yn parhau. Yr r’un yw’r neges i ni sydd am fod yn gymdogol gyda phobl anghyfarwydd i ni. Gwneud cysylltiadau a chyfathrebu.

Mae ‘comms’/cyfathrebu yn air ffasiynol y dyddiau yma. I mi trefn y cyfathrebu ydy: clywed y neges > gwrando ar y neges > cofio’r neges > meddwl am y neges >siarad am y neges. Dyma’r hyn fydd rhaid i aelodau newydd ein Senedd ni ei wneud.

Pan y dechreuais ddod yn gyfarwydd a phrosesau gweinyddu’r Crynwyr fe gymerodd dipyn o amser i mi ymgyfarwyddo a’r drefn o Gwrdd Busnes ar gyfer Materion Eglwysig. Cwrdd Addoli ar y Sul neu ar unrhyw ddydd, ond Cwrdd Busnes?

Fel oedolyn roeddwn wedi hen arfer ag eistedd trwy bwyllgorau hirfaith: yn aflonydd a rhwystredig; profi cadeirio gwael; ail adrodd parhaus; torri mewn; achub y blaen ac arall eirio rhyw sylw roedd eisioes wedi ‘i fynegi. Syrffedus.

Ond dyma drefn gwahanol. Mae Cwrdd Busnes y Crynwyr ar gyfer Materion Eglwysig yn cychwyn gyda munudau o dawelwch. Mae’n cael ei alw’n ‘Gwrdd’ ond dim Cwrdd Addoli yw ond Cwrdd i drafod busnes. Fe fydd na bapurau (cofnodion y cwrdd blaenorol) ac agenda. Arfer newydd sbon i mi oedd sylweddoli fod pob cofnod yn cael ei ysgrifennu lawr yn y fan a’r lle ar ddiwedd trafod y mater. Dim y drefn o adael i’r ysgrifennydd, ar ôl mynd adref, edrych dros ei nodiadau a cheisio cofio beth yn union a ddywedwyd ac a benderfynwyd.

Mewn Cwrdd Busnes gall pob cyfaill fynegi barn, yn aml ceir sawl barn gwahanol gyda daliadau cryf ar y naill ochr a’r llall. Wrth drafod yn onest ac agored fe geir penderyniad i symud ymlaen neu os yw’n rhy ddyrys down ‘nȏl at y pwnc wedi dwys ystryied eto. Bydd rhaid sicrhau bod y cofnod yn mynegi ‘teimlad y cyfarfod’ a chanfod ffordd ymlaen.

Fe fydd y ffordd ymlaen i’n haelodau etholedig ddim yn hawdd. Mae Crynwyr Cymru yn credu yng ngwerthoedd gwirionedd, cydraddoldeb cynaliadwyedd a heddwch Dylai’r gwerthoedd hyn fod yn bresennol yn y gwaith o lunio polisiau cenedlaethol yn ein cymuned ac yn ein bywydau unigol. Falle bod yr isod werth iddynt ystyried:

“A ydych yn parchu’r hyn sydd o Dduw ym mhawb er y gall fod wedi ei fynegi mewn ffyrdd anghyfarwydd neu yntau’n anodd ei ddirnad.... Pan fo geiriau’n ddieithr i chwi neu’n tarfu arnoch, ceisiwch synhwyro o ble y daethant gan ystyried yr hyn fu’n maethu bywydau pobl eraill. Gwrandewch yn amyneddgar, a cheisiwch y gwirionedd fo i chi yn naliadau pobl eraill. Gochelwch rhag beiriniadaeth sy’n clywfo ac iaith sy’n cythruddo………………. “Rhan o rif 17o Gynghorion a Holiadau’r Crynwyr.

Duw – y Goleuni yr Ysbryd (neu pa bynnag enw sydd yn rhoi ystyr i chi)

Medi James, Mai 2026

Pob newyddion

Syml. Radical. Ysbrydol.