Cartref > Newyddion > Newyddion Cenedlaethol > Anrhydeddau'r Orsedd 2025: Jane Harries, Clerc CC

Anrhydeddau'r Orsedd 2025: Jane Harries, Clerc CC

Gyda llawenydd mawr y clywsom yr wythnos hon fod Jane Harries, Cyd-glerc CCQW, wedi'i gwneud yn aelod o'r Orsedd - y gamp uchaf ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae Gorsedd Cymru yn rhan annatod o’n diwylliant. Mae’n cynnal seremonïau’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn anrhydeddu pobl sydd wedi
gwneud cyfraniad sylweddol i’r iaith Gymraeg a Chymru. Bydd Jane yn cael ei derbyn mewn seremoni yn yr eisteddfod eleni yn Wrecsam.

Mae gwefan yr eisteddfod yn ei disgrifio fel a ganlyn:

Mae Jane Harries, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ymgyrchydd dros heddwch a chyfiawnder, ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o adeiladu Cymru fel cenedl heddwch. Bu’n ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod ac mae wedi cefnogi pobl ifanc i ddatblygu neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd. Bu hefyd yn ysgrifennydd grŵp Menter Academi Heddwch Cymru. Fel aelod o’r Crynwyr, mae’n ffyddiog bod heddwch a chymodi’n bosibl yng Nghymru a’r tu hwnt, ac wedi cyfrannu’n sylweddol at adeiladu cymdeithas well. Mae’n dal i fod yn bositif yn wyneb trais ac anghyfiawnder, ac yn credu bod heddwch yn cychwyn ynom ni’n hunain.

Pob newyddion

Syml. Radical. Ysbrydol.